Croeso…
Croeso i wefan Partneriaeth Wledig Conwy (PWC) a Grŵp Gweithredu Lleol Conwy (GGLl)
Mae Partneriaeth Wledig Conwy a Grŵp Gweithredu Lleol Conwy - ar y cyd â chymorth sefydliadau eraill - yn gweithio tuag at wella bywydau’r bobl sydd yn byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Conwy.
Trwy bethau fel prosiectau cymunedol a mentrau hyfforddi, mae’r grwpiau yn annog pobl i ddod ynghyd a datblygu rhwydwaith o gymunedau sy’n gynaliadwy’n ariannol, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol - ac i wneud cefn gwlad Conwy yn lle mwy dymunol a ffyniannus i fyw ynddo, gweithio ynddo ac i ymweld ag o.
Dyluniwyd y wefan hon i ddweud wrthych am y prosiectau cymunedol, digwyddiadau, gweithgareddau a’r cyfleoedd sydd ar gael trwy gefn gwlad Conwy - a sut i gymryd rhan.
Sut i gymryd rhan….
A hoffech dderbyn diweddariad am Bartneriaeth Conwy Wledig neu’r Grŵp Datblygu Lleol a hefyd y Cynllun Datblygu Wledig?

