Partneriaeth Wledig Conwy

Amdanom Ni…

Ffurfiwyd Partneriaeth Wledig Conwy (PWC) yn nechrau 2000 a deilliodd o gyfarfod cyntaf Fforwm Gwledig Conwy. Swyddogaeth y Bartneriaeth oedd cydlynu a datblygu cynlluniau oedd yn cefnogi neu er lles cymunedau gwledig. Lluniwyd Rhaglen Weithredu ym mis Medi 2000 yn cefnogi amryw o brosiectau gwledig.

Ers hynny mae’r Bartneriaeth wedi datblygu a chryfhau i arwain wrth weithredu Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 - 2013 yn lleol a chydlynu gweithgareddau datblygu gwledig yn ehangach. Mae’n cynrychioli’r sector cyhoeddus, preifat, cymunedol a gwirfoddol sy’n gysylltiedig â Chonwy wledig, a hynny yn gyfartal.

Mae PWC yn un o 18 Partneriaeth Lleol yng Nghymru a gyflwynodd geisiadau cyllid ar gyfer prosiectau sy’n cyfrannu at amcanion y Cynllun Datblygu Gwledig. Mae Partneriaeth Wledig Conwy wedi llwyddo i gael cymeradwyaeth ar gyfer 32 prosiect i’w gweithredu yn ystod cam cynllun busnes cyntaf y Cynllun Datblygu Gwledig (2008-2011). Cyfanswm gwerth y prosiectau hyn oedd £5.4 miliwn. Mae Grŵp Gweithredu Lleol Conwy yn gyfrifol am ddarparu prosiectau Echel 4 – Gweithgareddau a Leader+.

Mae’r Bartneriaeth Wledig hefyd yn un o’r partneriaethau allweddol sy’n cyfrannu tuag at gyflawni Strategaeth Gymunedol Conwy.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw’r corff arweiniol, y cydlynydd ariannol a’r ysgrifennydd rheoli ar ran y Bartneriaeth a’r Grŵpiau Gweithredu Lleol.  I gyflawni’r swyddogaeth hon, lluniwyd Tîm Cynllun Datblygu Gwledig sy’n ffurfio rhan o Wasanaeth Datblygu Cymunedol y Cyngor. Mae’r Tîm yn gyfrifol am gydlynu gweithgareddau PWC, y Grŵp Gweithredu Lleol Echel 4, Grŵp Echel 3 a chael y manteision lleol gorau o’r Rhaglen Datblygu Gwledig.

View Creative Agency