Partneriaeth Wledig Conwy

Conwy Wledig…

Mae Conwy yn ardal gyda thirlun eithriadol yn amrywio o draethau tywodlyd helaeth a  phentiroedd i ddyffrynnoedd cysgodol, gweundiroedd agored a mynyddoedd garw.

Mae Conwy Wledig yn ardal ddeniadol, amaethyddol yn bennaf gyda chyfleoedd gwaith cyfyngedig eraill ac ychydig o bwysau datblygu.  Mae ei phoblogaeth yn wasgaredig iawn ac mae’r mwyafrif ohonynt yn siaradwyr Cymraeg. 
Y prif aneddiadau yw tref farchnad Llanrwst a phentrefi gwasgaredig Betws-yn-Rhos, Betws-y-coed, Cerrigydrudion, Dolwyddelan, Eglwysbach, Glan Conwy, Llanfairtalhaearn, Llangernyw, Llansannan, Pentrefoelas a Threfriw.

View Creative Agency