Partneriaeth Wledig Conwy

Cynllun Datblygu Gwledig 2007-2013…

Mae Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 (CDG) yn rhan o strategaeth ar y cyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Undeb Ewropeaidd (UE) i wneud ein gwlad yn well lle i fyw a gweithio ynddi.

Mae’r Cynllun yn ein helpu ni i gyd i gynnal, mwynhau ac elwa ar gefn gwlad unigryw a hardd Cymru.  Ar yr un pryd, mae’n mynd i’r afael â phroblemau penodol fel cyflogau isel sy’n effeithio ar nifer o bobl mewn ardaloedd gwledig.

Edrych ar ôl yr amgylchedd ac annog datblygiad economaidd cynaliadwy yw dau o nodau pwysicaf y Cynllun.  Ond mae creu swyddi lle mae angen sgiliau uchel a chefnogi prosiectau cymunedol lleol yn flaenoriaethau pwysig hefyd.

Y Cynllun yw ail CDG Cymru a bydd yn adeiladu ar lwyddiant Cynllun 2000-2006.  Mae’r Cynllun yn cynnwys dros £795 miliwn o nawdd dros saith mlynedd, gan gynnwys £195 miliwn o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) - Felly mae gennym arian i wneud iddo weithio, rhoi syniadau ar waith a gweld newid gwirioneddol er gwell yn ein cymunedau gwledig.

Mae’r Cynllun wedi’i rannu’n 4 prif ran, sy’n cael eu galw’n Echelau 1, 2, 3 a 4:

  • Echel 1: Gwneud ffermio, coedwigaeth a phrosesu bwyd yn fwy cystadleuol;
  • Echel 2: Cadw ein tirlun a’n hamgylchedd;
  • Echel 3: Gwella ansawdd bywyd ac annog arallgyfeirio;
  • Echel 4: Gweithredu’r agwedd Leader, h.y. arbrofi gyda mentrau sy’n gweithredu ar lefel lleol sy’n helpu creu cymdeithas, economi ac amgylchedd mwy cynaliadwy.

Gall pawb elwa ar hyn

Mae llawer o bobl yn meddwl fod datblygu gwledig yn ymwneud â phethau fel ffermio a choedwigaeth yn unig. Mewn gwirionedd, mae’r Cynllun yn berthnasol i bawb mewn ardaloedd gwledig ac i BOB agwedd o fywyd gwledig, nid dim ond busnes a ffermio.  Er enghraifft, mae’r Cynllun yn helpu datblygu gwasanaethau newydd a phresennol a chreu mwy o gyfleoedd hyfforddi a swyddi.

Yn benodol, mae’r Cynllun yn cefnogi ac yn croesawu syniadau gan bobl leol sydd eisiau gweithredu i wneud eu cymunedau yn llefydd gwell i fyw ynddynt.  Gall hynny gynnwys unrhyw beth o ganolfan ailgylchu gymunedol i sefydlu cyfleusterau gofal plant, meithrinfa a gofal dydd yn lleol.

View Creative Agency