Taith Ffotograffiaeth gyda Pierino Algieri……

©
Bydd Pierino Algieri (Ffotograffydd Tirlun a Natur) yn arwain taith ffotograffiaeth am ddim, o fewn Coedwig Gwydyr o gwmpas ardal Llyn Crafnant â Llyn Geirionydd. Tra byddwch yn mwynhau harddwch amrywiol tirlun Conwy wledig bydd Pierino wrth law i'ch helpu i gael y gorau o'ch camera a'ch offer.
Dyddiad:
Dydd Sadwrn.Mai'r 26ed, 2012 Amser cychwyn: 9:00yb
Archebu:
Mae'r daith hon wedi'i anelu at ffotograffwyr gyda sgiliau o bob lefel ac mae'r daith gerdded ei hun yn un hawdd/gymhedrol. Nodwch, os gwelwch yn dda, bod llefydd ar y daith yn gyfyngedig a fe fydd angen archebu eich lle. I archebu lle neu am ragor o wybodaeth ynglyn ag argaeledd neu am y prosiect ei hun, yna cysylltwch a’r rif ffôn 01492 577577 (Canolfan Dwristiaeth)
Man cyfarfod: Gwesty Meadowsweet, Heol yr Orsaf, Llanrwst, LL26 0DS (os yn teithio mewn car yna defnyddiwch y maes parcio cyhoeddus yng Nglasdir sydd ychydig ymhellach i lawr o'r gwesty - www.glasdir.com/finding.asp). Bydd cludiant yn cael ei ddarparu o'r gwesty i fan cychwynol y daith.
Beth sydd angen:
Eich camera (wrth gwrs); esgidiau cerdded (hanfodol ar gyfer y digwyddiad); bydd nagen hefyd sicrhau bod gennych ddarpariaeth amddifynnol ar gyfer pob tywydd ar gyfer eich offer ac wrth gwrs chi'ch hunain.
Agenda:
08:45yb Cyfarfod yng Ngwesty Meadowsweet
09:00yb Gadael am y daith
01:30yp Pryd ysgafn
02:00yp Prosesu: bydd Pierino yn dewis ychydig o ddelweddau gan y grwp ac yn dangos sut y byddai ef yn eu golygu/prosesu
04:00yp Diweddu
