Diffyg Band Eang
Mae Partneriaeth Wledig Conwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn edrych mewn i’r diffyg gwasanaeth band llydan yng Nghonwy wledig.
Byddai’r gwasanaeth hwn yn dod â budd economaidd a chymdeithasol i’r ardaloedd hynny.
Yn 2008, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ei fwriad i glustnodi 1 biliwn Ewro yn ychwanegol er mwyn ehangu gwasanaethau band llydan mewn ardaloedd gwledig. Cyfran Cymru o’r arian hwn yw 1.6 miliwn Ewro. Bydd yr arian yn cael ei ddarparu drwy Echel 3 y Cynllun Datblygu Gwledig.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penderfynu bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i wella’r Cynllun Cefnogi Band Llydan Arloesol Rhanbarthol (RIBS); bwriad y cynllun hwn yw darparu gwasanaethau band llydan cenhedlaeth gyntaf i rannau o Gymru (512Kbps i 2Mbps i’r cwsmer a 256Kbps i 512Kbps oddi wrth y cwsmer) am bris fforddiadwy mewn cymhariaeth ag ardaloedd trefol o Gymru.
Y diffiniad o ‘Fannau Gwan’ yw ‘ardaloedd mewn cyfnewidfeydd sydd wedi’u galluogi lle nad oes mynediad i fand eang lefel isaf’. Os ydych mewn un o’r ‘Mannau Gwan’ hyn, gallwch gofrestru gyda’r wefan RIBS hon a fydd yn galluogi’r tîm i fapio’r ardaloedd hyn. Mae’r prosiect RIBS hefyd yn cysylltu ar hyn o bryd gyda’r diwydiant telegyfathrebu er mwyn creu atebion priodol a chost effeithiol ar gyfer mannau gwan.
Os ydych yn un o’r ‘mannau gwan’ hyn ewch i’r wefan hon http://cymru.gov.uk/topics/businessandeconomy/broadbandandict/initiatives/ribs/?skip=1&lang=cy&ts=3 i gofrestru hynny.
Bydd y cofrestriad hwn yn amlygu’r angen am fand llydan mewn ardaloedd gwledig o Gonwy lle nad oes gwasanaeth ar hyn o bryd. Anfonwch yr e-bost hwn at gymaint o bobl â phosibl er mwyn sicrhau fod y cynllun hwn o fudd i Gonwy.
comments
No Comments
