Partneriaeth Wledig Conwy

Grŵp Gweithredu Lleol Echel 4…

Y Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl) yw’r elfen sy’n darparu Echel 4 y Rhaglen Datblygu Gwledig. Nod y GGLl yw amrywio sylfaen economaidd Conwy wledig, datblygu a hyrwyddo cynnyrch a diwylliant gwledig, a chyflawni adfywiad cymdeithasol a chymunedol.

Cyflawnwyd y GGLl prosiectau werth dros £1.7 miliwn o dan y Cynllun Busnes Cyntaf 2008-2011, yn yr ail gynllun busnes 2011-2013, cyfanswm y prosiectau presennol yn werth dros £2.2 miliwn.

 

Dyletswydd y GGLl yw goruchwylio’r rhaglen, a gwneud yn siŵr ei fod yn cyflawni’r egwyddorion a’r amcanion a sefydlwyd yn y cynllun datblygu.

Bydd y GGLl yn monitro ac yn rheoli darpariaeth y prosiectau, yn ystyried cynigion gan y gymuned a’u cymhwysedd dan y Cynllun Datblygu Gwledig. Bydd hefyd yn monitro tasgau’r corff arweiniol ac yn gwneud yn siŵr bod darpariaeth prosiectau yn cydymffurfio â’r rheoliadau.

Mae gan y GGLl hefyd gyfle i arwain neu fod yn rhan o brosiectau cydweithredol gyda siroedd cyfagos neu ymhellach ledled Ewrop.

 

View Creative Agency