Partneriaeth Wledig Conwy…
Y Partneriaeth
Ffurfiwyd Partneriaeth Wledig Conwy (PWC) ddechrau 2000 yn dilyn cyfarfod cyntaf Fforwm Wledig Conwy. Gyda 19 aelod a chefnogaeth swyddogion o sefydliadau allweddol gyda chylch gwaith datblygu gwledig, mae wedi bod yn llwyddiannus wrth gynghori mentrau o dan y Cynllun Amcan 1, Gweithredu Dros Fusnesau Gwledig, Ardal Twf Twristiaeth Gwledig a Gweithredu dros Gymunedau Gwledig. Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) sy’n gyfrifol am PWC ac yn gweithredu fel eu corff atebol o dan gytundeb lefel gwasanaeth.
Yn ystod 2006, mae PWC wedi cynyddu eu haelodaeth i 28 gan gynnwys cynrychiolaeth fwy cyfartal o’r sectorau cyhoeddus, preifat, cymunedol a gwirfoddol.
Yn ystod y cynllun busnes cyntaf ar gyfer 2008-2011 llwyddodd PWC i ddarparu prosiectau gwerth dros £5.7miliwn, ac ar hyn o bryd yn gweithredu’r ail gynllun busnes ar gyfer 2011-2013 gyda phrosiectau gwerth £5.2miliwn ar gyfer Conwy wledig.

