Partneriaeth Wledig Conwy

Amgylchedd

Menter Perllannau Conwy

Beth ydi Menter Perllannau Conwy?

Pwrpas y fenter hon ydi cynnal astudiaeth helaeth o goed cynhenid sy'n tyfu ffrwythau, ffrwythau meddal neu gnau yng Nghonwy ac amlygu ymarferoldeb masnachol tyfu'r amrywiaethau hyn.

Mae'r astudiaeth yn ceisio hyrwyddo cadwraeth a gwella adnoddau naturiol a diwylliannol Conwy, ac i annog twf ariannol trwy hyrwyddo cynaladwyedd ac arallgyfeirio ffermydd.

Yn gyntaf, bydd y prosiect yn edrych ar berllannau a grwpiau o goed sydd ag amlygrwydd lleol neu' sy'n berthnasol i'r astudiaeth. Bydd safleoedd arwyddocaol yn cael eu mapio a bydd yr wybodaeth berthnasol yn cael ei storio.

Yn ail, bydd yr arolwg yn amlygu amrywiaethau o ffrwythau gyda pherthnasedd masnachol neu bwysigrwydd hanesyddol i Gonwy, bydd yn cysylltu efo ffermwyr neu dirfeddianwyr sy'n barod i ymgymryd â threialon tyfu, ac yn amlygu ardaloedd diogel i'w defnyddio ar gyfer glannau genetig. Bydd ymarferoldeb yr amrywiaethau hyn yn cael eu pennu, a bydd marchnadoedd a siopau posibl ar gyfer gwerthu coed, ffrwythau neu seidr yn cael eu hamlygu.

Oes gennych chi ddiddordeb?

Dylai ffermwyr, tirfeddianwyr neu berchnogion perllannau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan - neu'r rheiny sydd â diddordeb mewn cael hyfforddiant rheoli perllannau - gysylltu efo Geraint Jones ar 01492 575544 neu e-bostiwch .(JavaScript must be enabled to view this email address)

Digwyddiadau ar y Gorwel

Bydd pob digwyddiad hyfforddi a diwrnodau agored yn cael eu hysbysebu yn y wasg leol.

View Creative Agency