Partneriaeth Wledig Conwy

Cystadleuaeth Dylunio Crys-T i Mascot RDP sef: CER-I-CONWY…

Rydym yn awyddus iawn i weithio’n agos gyda ysgolion cynradd er mwyn hybu a hyrwyddo Datblygu Gwledig a felly ‘rydym wedi penderfynu mabwysiadu mascot. Bydd y mascot mewn ffurf tedi a’i enw yw: Cer-i-Conwy.

 

Fe fydd angen dilledyn ar Cer-i-Conwy a hoffwn ymestyn gwahoddiad i’r disgyblion gymryd rhan mewn cystadleuaeth dylunio crys-t. Caiff y gystadleuaeth ei noddi gan Cwmni Sional.  

Gofynnwn i’r lluniau gyrraedd ni yma yn Llanrwst erbyn dydd Mercher, Mawrth 21ain, 2012.  Caiff y lluniau eu beirniadu gan banel o dri a byddwn yn hysbysu’r ysgol/ion o’r enwau llwyddiannus. Bydd y lluniau yn cael eu harddangos yma yng Nglasdir o Ebrill 3ydd ymlaen a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod Ffair Basg Hynafol ar Ebrill 13eg- 14eg, 2012.

 

Bydd yr enillydd yn derbyn replica o’r crys-t a thystysgrif ac yn cael gwahoddiad draw i stondin RDP ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar Fehefin 4ydd ar gyfer cyflwyno/lansio Cer-i-Conwy a byddant hefyd yn derbyn llythyrau a.y.b. oddi wrth Cer-i-Conwy wrth iddo grwydro’r wlad. Bydd yr 2il a’r 3ydd yn cael tedi bach yn gwisgo eu dyluniad ynglyn a thystysgrifau.

View Creative Agency