Partneriaeth Wledig Conwy

Arweiniad i helpu Cynhyrchwyr Bwyd Conwy…

Arweiniad i helpu Cynhyrchwyr Bwyd Conwy

gyflenwi sectorau bwyd preifat a chyhoeddus

 

Galwad i gynhyrchwyr bwyd Conwy sy’n awyddus i gyflenwi cynnyrch i’r sectorau bwyd cyhoeddus a phreifat – trefnir digwyddiad arbennig ar gyfer y flwyddyn newydd.  Bydd tri arbenigwr ym maes bwyd yn cynnig arweiniad arbenigol i ddatblygu cyfleoedd marchnad yn y digwyddiad hwn yng Nghanolfan Glasdir, Llanrwst, Sir Conwy am 7:00yh, nos Fawrth, 10 Ionawr 2012. 

 

Yn ystod y noson dan y teitl ‘Cynhyrchwyr Bwyd: sut i gyflenwi’r sector fwyd gyhoeddus a phreifat’ bydd tri arbenigwr yn rhannu eu profiadau gyda chynhyrchwyr o gwmnïau bach a chanolig; Ieuan Edwards, perchennog Edwards o Gonwy; Sandy Boyd, Rheolwr Gyfarwyddwr Bwyd Cymru Bodnant a Dafydd Williams o Adran Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Trefnir y noson ar y cyd rhwng Partneriaeth Gwledig, Conwy Cynhaliol a phrosiect Cywain a reolir gan Fenter a Busnes.

 

Yn ôl Myrddin Davies, Rheolwr Prosiect Conwy Cynhaliol: “Nod Conwy Cynhaliol yw cynnig cefnogaeth a hyrwyddo datblygiadau cynaladwy yn ardaloedd gwledig Sir Conwy.  Un agwedd o’r gwaith hwn yw cefnogi datblygiad economaidd, ac yn ardaloedd gwledig Conwy, mae amaethyddiaeth a garddwriaeth yn chwarae rhan flaenllaw.  Trwy weithio gyda Cywain, cynllun sy’n ychwanegu gwerth i gynnyrch cynradd yn y sector amaethyddol, rydym wedi trefnu digwyddiad i gynhyrchwyr bwyd a diod drafod ac ymchwilio i gyfleoedd marchnad newydd.  Trwy ddod â thri llysgennad sy’n cynrychioli gwahanol agweddau o’r maes bwyd a diod i rannu eu profiadau gyda’r cynhyrchwyr, rydym yn gobeithio annog a darganfod cyfleoedd cyflenwi newydd i’r busnesau bach a chanolig eu maint.”

 

Bydd y gŵr busnes llwyddiannus, Ieuan Edwards, 49, o Lanrwst, Sir Conwy yn un o’r siaradwyr gwadd.  Sefydlodd Ieuan, mab fferm o Lanrwst, Dyffryn Conwy, siop Gigydd yng Nghonwy bron i 30 mlynedd yn ôl a datblygu brand cig Cymreig llwyddiannus ‘Edwards o Gonwy.’  Mae bellach yn cyflenwi cadwynni’r prif archfarchnadoedd ac yn allforio cynnyrch dramor.  Yn ychwanegol, sefydlodd ei uned gynhyrchu ‘The Traditional Welsh Sausage Co Ltd’ yn 2003 gan gyflenwi sosejis Cymreig, sydd wedi ennill nifer o wobrau, i’r sector fwyd.  Yn ddiweddar, enillodd gytundeb i allforio ei sosejis i brif ddinas Malaysia, Kuala Lumpur ac oherwydd y galw mawr, bydd y cynnyrch yn cael ei allforio mewn cynhwysydd mawr cludo nwyddau llong, yn hytrach nag ar balet mewn Jumbo Jet.  Mae egwyddorion traddodiadol yn parhau’n flaenllaw i’r busnes yn ogystal â chyflenwi cig Cymreig o safon. 

 

“Dwi’n awyddus i rannu fy mhrofiad gyda’r cynhyrchwyr yn Glasdir,” eglura Ieuan Edwards.  “Mae datblygu marchnadoedd newydd a gwella cyfleoedd busnes yn ystod cyfnod economaidd cythryblus yn anodd, er nid yn amhosib.  Byddaf yn rhannu fy mhrofiad busnes personol a phwysleisio pwysigrwydd diogelu cwsmeriaid tryw, ychwanegu gwerth i gynnyrch craidd, hyrwyddo gwasanaeth da i gwsmeriaid ac yn fwyaf oll, sicrhau cytundebau cyflenwi gyda chwsmeriaid newydd. 

 

“Yn fy marn i, mae gan gynhyrchwyr bwyd llai y fantais o adnabod eu cynnyrch yn dda.  Mae’n rhan annatod o fywydau pobl, gyda llawer o gynhyrchwyr yn parhau â thraddodiadau teuluol cenedlaethau.  Byddaf yn rhannu profiadau busnes go iawn gyda’r cynhyrchwyr, sefyllfaoedd anodd dwi wedi delio â nhw, wynebu sialensau a gadael cyfarfodydd wedi sicrhau cytundebau newydd.  Dwi’n sicr y byddai’n dysgu gan y cynhyrchwyr yn ystod y noson, a dwi hefyd yn awyddus i glywed profiadau’r ddau siaradwr arall sy’n arbenigo ym maes bwyd a diod yng Nghonwy.  Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at y noson yn Glasdir, ac yn falch iawn o’r gwahoddiad i gymryd rhan,” meddai Ieuan Edwards.

Yn ymuno â Ieuan yn ystod y noson, fydd Rheolwr Gyfarwyddwr Bwyd Cymru Bodnant, Sandy Boyd.  Mae gan yr arloeswr bwyd lleol a’r entrepreneur brofiad helaeth o’r maes tarddiad bwyd lleol, ac mae’n edrych ymlaen at y sialens o sefydlu Canolfan Fwyd Cymru Bodnant yn Fferm Ffwrnais, Eglwysbach, Conwy.  Sefydlodd siop fferm wahanol i’r arfer yn Llwydlo cyn symud i ogledd Cymru, lle roedd y cynnyrch a werthwyd yn y ganolfan fwyd yn cael eu cynhyrchu ar y safle yng ngheginau’r fferm.  Roedd gweddill y bwyd a werthwyd yn y ganolfan yn tarddu o’r bedair sir gyfagos, polisi tarddiad bwyd cryf a sicrhaodd bod Canolfan Fwyd Llwydlo yn ennill nifer o wobrau bwyd a thwristaidd lleol a chenedlaethol. 

Bydd Sandy Bod yn awyddus i rannu gwybodaeth am Fferm Ffwrnais a thrafod cyfleoedd cyflenwi bwyd i Ganolfan Bwyd Cymru Bodnant a fydd yn agor yn y gwanwyn.  Bydd digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’ yn cael ei drefnu ar y 24 a 25 o Ionawr gyda’r cyfle i gynhyrchwyr gyflenwi’r Ganolfan yn Fferm Ffwrnais.  Darperir mwy o wybodaeth ar y noson yng Nghanolfan Glasdir. 

Yn cynrychioli’r sector gyhoeddus yng Nglasdir, fydd Rheolwr Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Dafydd Williams.  Mae gan Dafydd y cyfrifoldeb o bwrcasu a rheoli anghenion bwyd ysgolion Sir Conwy.  Bydd yn trafod sut y mae system bwrcasu’r sir yn gweithio a sut y mae modd i gynhyrchwyr bwyd lleol fanteisio ar gyflenwi cynnyrch i fwydo plant ysgolion y sir. 

Bydd Cywain, cynllun a arweinir gan Fenter a Busnes ac a sefydlwyd i ychwanegu gwerth i gynnyrch cynradd yn y sector amaethyddol yn cydweithio â Chonwy Cynhaliol i hwyluso’r noson.  Daw’r nawdd i gynllun Cywain trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig.

 

Rhaid cofrestru o flaen llaw er mwyn mynychu’r noson gan mai nifer cyfyngedig gaiff fynychu.  Ebostiwch conwycynhaliol@conwy.gov.uk neu galwch 01492 577837 i gofrestru neu am wybodaeth bellach.  Bydd lluniaeth ysgafn ar gael yn ystod y noson. 

View Creative Agency