Partneriaeth Wledig Conwy

Ymunwch a'r hwyl a sbri…

Gyda'r Nadolig yn brysur agosau dewch draw i Glasdir, Llanrwst ar ddydd Gwener, Tachwedd 25ain rhwng 2 a 8 yh i ddathlu cynnyrch lleol. Bydd yna 30 o stondinau o dan un to yn cynnig wbath bach gwahanol  - gemwaith, llechen, cardiau, sebonau a siocled ynghyd a chacennau, hamperi , cwrw lleol  - dyma ond enwi rhai.

Bydd disgyblion Blwyddyn 10, Ysgol Dyffryn Conwy yn darparu lluniaeth drwy gydol y dydd gyda mins peis lleol er mwyn codi arian ar gyfer elusen o'u dewis. Gyda'r nos o 6yh bydd yna borc o Dyffryn Conwy wedi ei rostio'n ara deg - blasus!!!!

Gobeithiwn y bydd yma rhywbeth at ddant bawb, gyda ceirw Sion Corn yn ymweld a Glasdir , gweithdai crefft gyda Cariad ac am 7yh adloniant acwtsig gan Ebenezer Chapter a Welsh Celtify.

View Creative Agency