Neges Flwyddyn Newydd…
Dyma ni ar gychwyn blwyddyn newydd. ‘Rydym yn eiddgar iawn i’r flwyddyn hon fod yn llawn digwyddiadau fel rhan o’n hymgyrch i godi ymwybyddiaeth parthed grantiau a chyfleoedd sydd ar gael i ardaloedd gwledig Conwy.
Mae’r prosiectau newydd mewn gweithrediad o hyd fis Ebrill 2011 hyd at Ragfyr 2013 ac mae’r cynllun yn cynnig nifer o grantiau, fel sydd wedi eu cyhoeddi yn y papurau newydd eisoes ac yn cydlynu gweithgareddau er mwyn cael effaith gadarnhaol ar ardaloedd gwledig Conwy.
‘Rydym wedi mynychu sioeau lleol dros yr haf a digwyddiadau yng ngwahanol ardaloedd y Sir er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r hyn sydd ar gael. Mae’r tîm wedi lleoli yng Nghanolfan Glasdir yn Llanrwst a gyda chyllid ar gael i gynnal gweithgareddau a digwyddiadau penodol yn ardaloedd gwledig Conwy. Cynhaliwyd Ffair Grefft a Bwyd Nadolig llwyddiannus iawn yma yng Nglasdir ar ddiwedd Tachwedd gyda 32 o stondinau yn gwerthu cynnyrch a chrefftau lleol ac mae Ffair Basg Hynafol yn barod ar y gweill ar gyfer mis Ebrill.
Hefyd, mae gennym Syrjeri Grantiau wedi eu trefnu fel y ganlyn:
21:02:2012 Canolfan Gymuned, Llanfairtalhaiarn 10yb – 12yp
06:03:2012 Parish Rooms, Cerrigydrudion 10yb – 12yp
Mae croeso i unrhyw un alw heibio i’n gweld gan y bydd gennym wybodaeth ar gyfer unigolion, busnesau a grwpiau cymunedol o fewn Conwy wledig.
Dewch wan gadewch i ni drio wneud 2012 yn flwyddyn newydd llewyrchus.

